NHS Continuing Care Claims
Article date: 22.09.09
CUT OFF DATE OF 4 DECEMBER 2009 FOR CONTINUING NHS HEALTH CARE CLAIMS
The Welsh Assembly Government has given notice that no further claims for financial compensation arising from eligibility for Continuing NHS Health Care which relate to the period 1 April 1996 to 31 March 2003 will be considered if they are submitted after 4 December 2009. Claims which relate to later periods are unaffected.
Continuing NHS Health Care is a package of care funded solely by the NHS to provide the care which patients need over an extended period as a result of disability, injury or illness, to meet their physical or mental health needs. It is provided following a full assessment where the nature, intensity, complexity or unpredictability of a person’s health needs mean that they need to be actively managed by the NHS. Continuing NHS Health Care may be provided in a range of settings including in a hospital, a hospice, a care home, or in a persons’ own home.
Special review panels have operated for some years to advise whether reimbursement is due to people who claim that they were inappropriately denied Continuing NHS Health Care at any point between 1 April 1996 and 31 March 2003.
The Welsh Assembly Government now intends to wind up these arrangements. Individuals or their representatives who believe that they may have been entitled to Continuing NHS Health Care for any period between 1 April 1996 and 31 March 2003 have until 4 December 2009 to submit a claim.
Such claims should be submitted to: -
Hazel Reese
All Wales Continuing Care Reviews Manager
Powys Teaching Local Health Board
Room 9, Monnow Ward, Bronllys Hospital
Bronllys, Powys LD3 0LY
Contact details: e-mail: Hazel.Reese@powyslhb.wales.nhs.uk
This change does not affect entitlement to continuing NHS health care if the period in question starts later than, or extends beyond, 1 April 2003. In these cases claims should be made to the Local Health Board for the area in which the individual resides.
RHAGFYR 4ydd 2009 YW'R DYDDIAD CAU AR GYFER CYFLWYNO HAWLIADAU GOFAL IECHYD PARHAUS Y GIG
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi gwybod bod yn rhaid i hawliadau am iawndal sy'n ymwneud â chymhwysedd unigolion i fanteisio ar Ofal Iechyd Parhaus y GIG yn ystod y cyfnod o 1 Ebrill 1996 i 31 Mawrth 2003 ddod i law erbyn 4ydd Rhagfyr 2009, man pellaf. Ni fydd hawliadau o'r fath a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried. Nid yw hyn yn effeithio ar hawliadau sy'n ymwneud â chyfnodau diweddarach.
Pecyn o ofal yw Gofal Iechyd Parhaus y GIG, sy'n cael ei ariannu'n gyfan gwbl gan y GIG, i ddarparu'r gofal sydd ei angen ar gleifion i ddiwallu eu hanghenion iechyd corfforol neu feddyliol am gyfnod estynedig o ganlyniad i anabledd, anaf neu salwch. Caiff ei ddarparu yn dilyn asesiad llawn sy'n dod i'r casgliad bod natur, dwyster, cymhlethdod neu anwadalwch anghenion iechyd unigolyn yn golygu bod angen i'r GIG fynd ati i reoli'r anghenion hynny ei hun. Gellir darparu Gofal Iechyd Parhaus y GIG mewn amryw o leoliadau, gan gynnwys ysbyty, hosbis, cartref gofal neu gartref yr unigolyn.
Ers rhai blynyddoedd, mae paneli adolygu arbennig wedi bod yn cael eu cynnull i gynghori ar dalu iawndal i unigolion sy'n hawlio eu bod wedi eu rhwystro'n amhriodol rhag manteisio ar Ofal Iechyd Parhaus y GIG ar unrhyw adeg rhwng 1 Ebrill 1996 a 31 Mawrth 2003.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru bellach yn bwriadu dirwyn y trefniadau hyn i ben. Os ydy unigolion, neu eu cynrychiolwyr, o'r farn y bu hawl ganddynt fanteisio ar Ofal Iechyd Parhaus y GIG ar unrhyw adeg rhwng 1 Ebrill 1996 a 31 Mawrth 2003, yna gallant gyflwyno hawliad tan 4ydd Rhagfyr 2009.
Dylid anfon pob hawliad o'r fath at: -
Hazel Reese
Rheolwr Adolygiadau Gofal Parhaus Cymru Gyfan
Bwrdd Iechyd Addysgu Lleol Powys
Ystafell 9, Ward Monnow, Ysbyty Bronllys
Bronllys, Powys LD3 0LY
Manylion cyswllt: e-bost Hazel.Reese@powyslhb.wales.nhs.uk
Nid yw'r newid hwn yn effeithio ar hawliadau mewn perthynas â chymhwysedd unigolion i fanteisio ar Ofal Iechyd Parhaus y GIG os yw'r cyfnod dan sylw yn cychwyn ar ôl 1 Ebrill 2003 neu'n estyn y tu hwnt i'r dyddiad hwnnw. Mewn achosion o'r fath, dylai'r hawliadau gael eu cyflwyno i'r Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer yr ardal y mae'r unigolyn yn preswylio ynddi.
Yn gywir